| 9 February 2024
Nod Cynllun Strategol y Gweithlu Iechyd Meddwl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (SMHWFP) a ddatblygwyd gan Wella Addysg Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru, yw datblygu sgiliau a chapasiti ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gynyddu’r gefnogaeth i’r rhai mewn angen. (Strategic Mental Health Workforce Plan for health and social care).
Mae gofyniad i nodi a diffinio rolau gwirfoddoli sy’n cael effaith er mwyn helpu i lywio cynllunio’r gweithlu, addysg a hyfforddiant. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig ar draws continwwm gwasanaethau iechyd meddwl, ond gall fod yn anodd mesur yr angen a’r dystiolaeth wrth gynllunio’r gweithlu. Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r arolwg hwn yn galluogi gwell dealltwriaeth o gyfraniad gwirfoddolwyr a bydd yn adeiladu ar ffrydiau gwaith eraill sy’n cael eu datblygu fel rhan o strategaeth y gweithlu.
Mae Sgiliau Iechyd wedi’u comisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i gael mewnwelediad a dealltwriaeth o’r rolau o fewn y sector a helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau i lywio sut mae adnoddau a sefydlwyd drwy’r cynllun ar gael i’r sector gwirfoddol ac i wirfoddolwyr eu hunain.
Mae AaGIC wedi comisiynu Sgiliau Iechyd i weithio gyda nhw er mwyn:
- Codi proffil sefydliadau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio mewn lleoliad iechyd meddwl.
- Cydnabod a dathlu’r rhai sydd wedi cael effaith aruthrol drwy wirfoddoli a darparu gwasanaethau gwirfoddol ochr yn ochr â’n gweithlu iechyd meddwl.
- Annog gweithio mewn partneriaeth agosach rhwng y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.
- Deall eich bylchau sgiliau a gwybodaeth nawr ac yn y dyfodol, er mwyn helpu i lunio rolau, gyrfaoedd a llwybrau hyfforddi i ddiwallu’r anghenion hynny.
Rydym yn ceisio mewnbwn drwy ymgynghoriad cyhoeddus ehangach i sicrhau ein bod yn cyrraedd ystod eang o Sefydliadau ac Unigolion sy’n gweithio yn y Sector Gwirfoddol mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru. Bydd hyn ar ffurf arolwg ar-lein, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. I gael mynediad i’r arolwg ewch i’r dolenni canlynol:
Mae’r arolwg bellach ar agor ac mae’r dyddiad cau wedi’i ymestyn hyd hanner nos ar ddydd Gwener 8 Mawrth 2024 i gynnig amser ychwanegol i’r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan.